BASIS - The British Association for Sustainable Sport

Cynghrair Chwaraeon, Amgylchedd a Hinsawdd (SECC)

Hwb Adnoddau

Mae’r Gynghrair Chwaraeon, Amgylchedd a Hinsawdd (SECC) yn gydweithrediad rhwng sefydliadau yn y sectorau chwaraeon, iechyd, ffitrwydd a gweithgareddau i arwain a chydlynu ymdrechion y sector ar newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol. 

Mae’r grŵp yn ffrwyno adnoddau cyfunol y sector i helpu i leihau effaith amgylcheddol chwaraeon, hamdden a gweithgarwch corfforol a chyfrannu at bontio’r DU i sero net.

Mae’r hwb hwn yn dod â’r wybodaeth ddiweddaraf am gynaliadwyedd chwaraeon ynghyd â dogfennau ac adnoddau ymarferol y gellir eu defnyddio i sicrhau newid ystyrlon.

Aelodau SECC

⚠️ Bydd y dolenni ar y dudalen hon yn mynd â chi i wefannau trydydd parti, na allwn fod yn gyfrifol am eu cynnwys. Darllenwch ein Polisi Preifatrwydd am ragor o wybodaeth.

Tabl cynnwys

Ehangwch bob adran isod i weld y pynciau a drafodir o dan bob un. Dewiswch un i neidio i’r wybodaeth berthnasol. Gallwch ddefnyddio’r ddolen ‘cynnwys’ i ddychwelyd i’r tabl hwn.

Adran 1

Yr Her

Newidiadau i’r hinsawdd a’r amgylchedd yw’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu ni fel dynoliaeth. Gall sychder amlach a dwysach, stormydd, tonnau gwres, lefelau’r môr yn codi, rhewlifoedd yn toddi a chefnforoedd yn cynhesu greu hafoc ym mywydau pobl a dinistrio cymunedau.

Mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i ddeall achosion y newidiadau hyn, eu heffeithiau tebygol ar y blaned a chymdeithas, a’r hyn y gallwn ni ei wneud gyda’n gilydd i liniaru’r effeithiau hynny. Mae’r adran hon yn rhoi cyflwyniad i gynaliadwyedd amgylcheddol, newid yn yr hinsawdd a’r dull polisi byd-eang o fynd i’r afael â’r materion hyn.

1. Beth yw cynaliadwyedd amgylcheddol?

Mae cynnydd yn y boblogaeth fyd-eang, defnydd dwys o ynni a thwf diwydiannol cynyddol yn rhoi pwysau i gyd ar adnoddau naturiol y ddaear. Mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn cynnwys gwneud dewisiadau sy’n sicrhau ffordd gyfartal, os nad gwell, o fyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Felly, mae angen i ni osgoi disbyddu adnoddau naturiol a pheryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion dyddiol. Mae’r adnoddau isod yn rhoi rhywfaint o wybodaeth ychwanegol am beth yw cynaliadwyedd amgylcheddol, a pham ei fod yn bwysig.

🔗 Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig  (15 munud)
Edrychwch ar Gamau Gweithredu 13 ac 15.

🔗 BBC bitesize ar gynaliadwyedd
Ar gyfer dealltwriaeth sylfaenol o gynaliadwyedd.

2. Beth yw newid hinsawdd?

Mae newid hinsawdd yn cyfeirio at y newid mawr, hirdymor ym mhatrymau tywydd a thymheredd cyfartalog y blaned. Mae newid yn yr hinsawdd yn broses naturiol y mae’r ddaear yn mynd drwyddi, fodd bynnag mae’r newidiadau fel rheol yn digwydd dros 40,000 i 100,000 o flynyddoedd, gan roi amser i fyd natur addasu ac esblygu. Y newid yn yr hinsawdd rydym yn cyfeirio ato yw’r newid yn yr hinsawdd sydd wedi’i gofnodi ers y cyfnod cyn-ddiwydiannol, pan ddechreuodd pobl losgi glo, olew a nwy ar gyfer ynni. Mae’r cynnydd mewn nwyon tŷ gwydr yn ein hatmosffer ers i’r chwyldro diwydiannol ddechrau wedi cyflymu’r newidiadau yn ein hinsawdd. Dyma’r newid yn yr hinsawdd sydd wedi deillio o weithgarwch dyn yn unig.

Mae’r adnoddau canlynol yn amlinellu sut a pham mae hinsawdd y blaned yn newid a rôl ymddygiad dyn wrth achosi a chyflymu’r newidiadau hyn.

Byr, cryno ac ar lefel dechreuwr:

🔗 BBC (10 munud)

🔗 Gweithredu Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (5 munud)
Cyflwyniad gwych i’r rhai sy’n newydd i newid hinsawdd.

🎥 Cwrs Cyflym (1.5 munud)
Fideo byr sy’n rhoi trosolwg ardderchog i’r rhai sy’n newydd i newid hinsawdd.

Adnoddau manylach ar lefel uwch:

🔗 Y Swyddfa Dywydd (10 munud)

🎥 Cwrs Cyflym (15 munud)
Fideo ychydig yn hirach, sy’n rhoi mwy o ddyfnder am beth yw newid yn yr hinsawdd, beth sy’n ei achosi, a sut bydd yn effeithio arnom ni.

🔗 Newid Hinsawdd Byd-eang NASA (Darllen hirach)
Darllen manwl, sy’n darparu ystadegau a ffigurau ar raddfa newid hinsawdd.

3. Beth yw bioamrywiaeth, a pham mae dan fygythiad yn y DU?

Bioamrywiaeth yw’r amrywiaeth o anifeiliaid, planhigion, ffyngau, a hyd yn oed micro-organebau fel bacteria sy’n rhan o’n byd naturiol. Mae pob un o’r rhywogaethau a’r organebau hyn yn gweithio gyda’i gilydd mewn ecosystemau, fel gwe gymhleth, i gynnal cydbwysedd a chynnal bywyd.

Mae bodau dynol yn dibynnu ar y systemau hyn i oroesi: rydyn ni angen dŵr ffres, aer glân, a phlanhigion ar gyfer bwyd. Rydyn ni hefyd angen byd naturiol sy’n gymhleth, yn ffynnu ac yn llawn amrywiaeth – rydyn ni angen bioamrywiaeth.

O ganlyniad i ddegawdau o ddiwydiant a ffermio, ynghyd â newidiadau mewn defnydd tir, bu dirywiad sylweddol mewn bioamrywiaeth yn y DU. Er bod ymdrechion wedi’u gwneud i fynd i’r afael â’r dirywiad hwn – gan gynnwys drwy greu ardaloedd gwarchodedig, sy’n helpu i sicrhau bod mannau bioamrywiol hynod bwysig yn parhau i fod mewn cyflwr da am genedlaethau i ddod – mae’r dystiolaeth yn dangos i ni bod colled sylweddol wedi bod o hyd – a difodiant hyd yn oed – i rai rhywogaethau. Tynnir sylw at hyn yn Adroddiad Cyflwr Natur 2019, sy’n honni bod 41% o rywogaethau yn y DU wedi gweld maint eu poblogaeth yn gostwng ers 1970, gyda 15% o rywogaethau bellach yn cael eu hystyried fel rhai sydd dan fygythiad o ddifodiant. Felly er ein bod yn ymwybodol o’r angen i atal, a gwyrdroi, colli bioamrywiaeth, nid ydym yn gweithredu’n ddigon cyflym.

Mae’r dolenni isod yn rhoi mwy o wybodaeth am achosion colli bioamrywiaeth, effaith hyn ar y blaned a dynoliaeth, yn ogystal â beth sydd angen i ni ei wneud er mwyn gwyrdroi’r dirywiad.

🎥 Natural History Museum (3 munud)
Yn rhoi trosolwg byr, craff o beth yw bioamrywiaeth, a pham mae mor bwysig.

🎥 The Royal Society (6 munud)

🔗 BBC (5 munud)

🔗 Fforwm Economaidd y Byd (9 munud)

4. Beth sy'n achosi'r problemau hyn a beth fydd yr effeithiau tebygol os na fyddwn yn gwneud dim?

Rydym yn gwybod bod y blaned yn cynhesu a bod digwyddiadau tywydd eithafol i’w gweld yn amlach. Rydym hefyd yn gwybod ein bod yn wynebu argyfwng bioamrywiaeth, gyda’r nifer uchaf erioed o rywogaethau’n wynebu difodiant. Ond beth yw rhai o’r ffactorau allweddol sy’n gyrru’r newidiadau hyn, a beth fydd yn digwydd os na fyddwn yn cymryd camau brys i fynd i’r afael â hyn? Mae’r adnoddau isod yn rhoi rhywfaint o wybodaeth ynghylch pam mae’r newidiadau hyn yn digwydd, a beth fydd y canlyniad tebygol os byddwn yn parhau ar ein llwybr presennol.

Ffocws ar newid hinsawdd:

🔗 WWF (15 munud)

🎥 The Economist (16 munud)
Mae’r fideo yma’n rhoi mwy o wybodaeth am sut gallai’r byd edrych yn seiliedig ar senario cynhesu 3°C.

🔗 Y Cenhedloedd Unedig (10 munud)

Ffocws ar fioamrywiaeth:

🔗 Sefydliad Iechyd y Byd (10 munud)
Mae’n darparu rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol am yr effaith y mae colli bioamrywiaeth yn ei chael ar ein hiechyd.

🔗 Greenly (15 munud)
Os ydych chi’n brin o amser, darllenwch o ‘Sixth Mass Extinction?’ ymlaen i gael trosolwg o sut bydd colli bioamrywiaeth yn effeithio ar rannau o’n bywydau bob dydd drwy bethau fel cynhyrchu bwyd a chlefydau heintus.

5. Beth yw graddfa’r newid sydd ei angen i sicrhau ein bod yn osgoi'r effeithiau hyn?

Felly rydym yn gwybod beth fydd yr effeithiau os na fyddwn yn gwneud dim, ond faint y mae angen i ni ei newid, ac ar ba gyflymder, i osgoi’r senario yma? Gall fod yn frawychus meddwl am y newidiadau sydd eu hangen yn fyd-eang i atal effeithiau mwyaf niweidiol newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Fodd bynnag, fel mae’r adrannau canlynol yn dangos, mae gobaith, os byddwn yn cymryd camau rhagweithiol fel grŵp ac fel unigolion, bod amser o hyd i osgoi’r sefyllfa waethaf bosibl.

📁 Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig (5 munud)
Crynodeb o Adroddiad Bwlch Allyriadau 2022.

🔗 The Nature Conservatory (30 munud)

🔗 IPCC – Penawdau Adroddiad (15 munud)

6. Beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r problemau hyn ar raddfa ryngwladol, genedlaethol a lleol?

Mae gan lywodraethau rôl allweddol i’w chwarae wrth fynd i’r afael ag achosion ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae’r adran hon yn edrych ar y cyfeiriad y mae Llywodraeth y DU a’r Gwledydd Datganoledig yn ei bennu i helpu i sbarduno cynnydd yn ei flaen, yn ogystal ag ymdrechion sefydliadau rhyngwladol fel y Cenhedloedd Unedig (CU) i bennu consensws byd-eang ynghylch yr angen am gydweithio i fynd i’r afael â’r heriau hyn. I raddau helaeth, mae’r ddwy lefel yma o lunio polisïau yn mynd law yn llaw, gan fod gan y Cenhedloedd Unedig ran bwysig i’w chwarae wrth ddod â llywodraethau cenedlaethol at ei gilydd i gytuno ar dargedau a phennu cyfeiriad byd-eang ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd.

Mae strategaethau lleol ar waith ledled y DU hefyd i helpu cymunedau i fwrw ymlaen â gweithredu dros yr hinsawdd. I ddarganfod mwy am ble gallwch chi ddod o hyd i gefnogaeth, edrychwch ar yr adnoddau sydd ar gael ar wefan eich cyngor lleol. Os oes gennych chi amser, darllenwch ei gynllun gweithredu ar yr hinsawdd hefyd, i gael gwell syniad o sut mae’n cyd-fynd â’r cyd-destun rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Llywodraethu rhyngwladol, byd-eang:

🔗 Y Cenhedloedd Unedig – Gwefan Race to Zero
Yn darparu rhywfaint o gyd-destun defnyddiol ar ymdrechion rhyngwladol i gyrraedd allyriadau sero net – ymhlith cenedl-wladwriaethau, busnesau ac ystod o sefydliadau.

Llywodraeth Genedlaethol:

🔗 Llywodraeth y DU – Strategaeth Sero Net (30-60 munud)
Edrychwch ar y Crynodeb Gweithredol (tudalennau 12-34).

Lleol:

🔗 Copi Carbon – Cynllun Gweithredu’r Cyngor Lleol
Adnodd gwych a all eich helpu i ddarganfod y statws gweithredu ar yr hinsawdd yn eich ardal leol.

🔗 Cyfeillion y Ddaear
Ffordd wych arall o ddarganfod pa weithredu lleol y gallwch chi gymryd rhan ynddo yn eich cymuned.

Adran 2

Y Cysylltiad â Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol

Mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hollbwysig. Nid yn unig maen nhw’n gwella ein hiechyd corfforol a meddyliol yn sylweddol, ond maen nhw hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddod â phobl at ei gilydd – boed hynny o fewn cymuned leol, neu ar draws gwahanol rannau o’r byd.

Fodd bynnag, mae’r sector yn dechrau deffro i heriau newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Mae’r adran hon yn edrych yn fanylach ar y bygythiadau y mae hinsawdd sy’n newid yn ei achosi i’n gallu ni i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, cyn ymchwilio i’r rôl y mae’r sector chwaraeon yn ei chwarae wrth gyfrannu at y broblem yn y lle cyntaf. Yn olaf, mae’r adran yn troi ei sylw at yr hyn y gall chwaraeon ei wneud, ac y mae’n ei wneud, i helpu i fynd i’r afael â’r materion hyn.

7. Sut mae materion amgylcheddol yn effeithio ar chwaraeon?

Mae’r hinsawdd yn cynhesu yn effeithio ar bob math o chwaraeon a gweithgareddau corfforol – yn gynnydd yn amlder a dwyster y tonnau gwres sy’n achosi gohirio digwyddiadau’r haf, neu’r cynnydd mewn tymheredd byd-eang cyfartalog sy’n lleihau nifer y lleoliadau hyfyw ar gyfer chwaraeon gaeaf. Does dim un gamp heb ei chyffwrdd. Mae newidiadau i’r amgylchedd yn effeithio’n uniongyrchol ar ein gallu ni i gymryd rhan mewn chwaraeon a gwylio chwaraeon ledled y byd.

Yn y DU, rydym wedi gweld dyblu’r digwyddiadau lle mae glaw wedi atal y chwarae mewn criced, cynnydd yn nifer y cyrsiau golff sy’n dioddef o effeithiau erydu arfordirol, a chynnydd yn nifer y caeau pêl droed ar lawr gwlad sy’n gorfod delio â llifogydd amlach a dwys. Mae’r dolenni isod yn rhoi rhagor o wybodaeth am yr effeithiau hyn, a sut ddyfodol sydd i gyfranogiad chwaraeon os na fyddwn yn gweithredu’n gyflym ac yn gadarn.

Byr, cryno ac ar lefel dechreuwr:

🎥 COP 26 – Fideo Athletwr (2 munud)
Fideo byr, pwerus yn amlinellu llais yr athletwr ar gynaliadwyedd amgylcheddol.

🔗 Chwaraeon y BBC – Tudalen We Chwaraeon 2050
Yn darparu adnoddau lluosog sy’n tynnu sylw at y cysylltiad rhwng chwaraeon a chynaliadwyedd amgylcheddol – gan gynnwys senarios ar yr hyn a all ddigwydd os na fyddwn yn gweithredu’n gyflym ac yn gadarn.

🔗 Fforwm Economaidd y Byd (10 munud)

Adnoddau manylach ar lefel uwch:

8. Sut mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn cyfrannu at waethygu problemau amgylcheddol?

Mae hefyd yn bwysig cydnabod, er y bydd chwaraeon yn dioddef yn sylweddol o effeithiau newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, bod y sector yn cyfrannu at y broblem drwy ei ôl troed carbon ei hun. Mae cyfansoddiad yr ôl troed yma’n amrywio ar draws nifer o feysydd, gyda defnydd o ynni a theithio gan gefnogwyr / gwylwyr yn ddau o’r prif droseddwyr. Mae’r adran hon yn rhoi rhagor o wybodaeth am raddfa’r effaith y mae’r sector chwaraeon yn ei chael ar yr amgylchedd, gan gynnwys llond llaw o astudiaethau achos sy’n tynnu sylw at yr angen am gymryd camau i leihau’r ôl troed yma.

🎥 The Economist Educational Foundation (4 munud)
Cipolwg gwych ar bersbectif y genhedlaeth iau ar newid hinsawdd a chwaraeon.

📁 Play the game – Understanding the footprint of sports (15 – 30 munud)
Yn cynnwys rhai astudiaethau achos rhagorol sy’n manylu ar ôl troed chwaraeon unigol, ac ymdrechion i leihau’r rhain.

🎥 Rapid Transition – Tudalen We a gweminar (60+ munud)
Gweminar ragorol sy’n cynnwys lleisiau o bob rhan o’r sector i bwysleisio’r cyfleoedd sy’n bodoli i chwaraeon ffrwyno gweithredu ar yr hinsawdd.

9. Sut mae hyn yn gysylltiedig â materion pwysig eraill, fel anghyfiawnder hinsawdd ac anghyfartaledd cymdeithasol?

Fel pob her, mae chwaraeon yn cydnabod mai’r rhai â llai fydd yn cael eu taro galetaf. Anghyfiawnder hinsawdd yw un o’r heriau mwyaf y bydd yn rhaid i’r wlad ei hwynebu a rhaid rhoi sylw i hyn er mwyn sicrhau trosglwyddo teg i sero net.
Gyda’r angen am lefelau cynyddol o liniaru ac adnoddau ynni i addasu i’r hinsawdd sy’n newid, mae costau cyfleustodau i glybiau a sefydliadau yn codi. Ar gyfer grwpiau ar y cyrion a’r rhai ar incwm is, bydd yr effaith ganlyniadol hon yn eu hatal rhag cael mynediad i chwaraeon a chymryd rhan ynddynt, ynghyd â gallu defnyddio cyfleusterau sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n dda.

Mae’r adran hon yn rhoi rhagor o wybodaeth am y ffyrdd y bydd newid yn yr hinsawdd yn cael ei deimlo’n anghyson ar draws gwahanol rannau o gymdeithas, gan gynnwys drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae hefyd yn cynnwys dolenni at rai adnoddau defnyddiol a all sicrhau bod y camau rydym yn eu cymryd o fewn y sector chwaraeon yn helpu i fynd i’r afael â materion amgylcheddol a chymdeithasol ar yr un pryd.

Byr, cryno ac ar lefel dechreuwr:

🔗 Beth yw cyfiawnder hinsawdd? (7 munud)
Yn rhoi esboniad byr o beth yw cyfiawnder hinsawdd, a beth allwn ni ei wneud i’w gyflawni.

🔗 Cyfiawnder Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (10 munud)
Diffiniad o gyfiawnder hinsawdd yng nghyd-destun Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

🔗 Materion chwaraeon byd-eang (10 munud)
Yn amlinellu pam mae effaith newid hinsawdd ar chwaraeon yn broblem cyfiawnder amgylcheddol.

Adnoddau manylach ar lefel uwch:

🎧 The Sustainability Report (50 munud)
Podlediad gwych sy’n rhoi cefndir i’r cysyniad o gyfiawnder hinsawdd a sut gall chwaraeon helpu i’w gyflawni.

🔗 The Just Transition (Darllen hirach)

🔗 Ymddiriedolaeth Joseph Rowntree (Darllen hirach)
Yn rhoi manylion am y cysylltiadau rhwng amgylcheddol a materion.

Adnoddau ar sut i gynnwys hyn yn y gweithredu:

🔗 Julies Bicycle
Yn darparu cefnogaeth ar gyfer sut i blethu cyfiawnder amgylcheddol a chymdeithasol yn eich gwaith.

10. Pa rôl all chwaraeon a gweithgarwch corfforol ei chwarae wrth helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn?

Mae chwaraeon mewn sefyllfa unigryw i ddod â phobl at ei gilydd ac i greu llwyfan er daioni. Mae gan glybiau a sefydliadau’r pŵer i godi ymwybyddiaeth o’n hinsawdd ni sy’n newid yn gyflym, gan gyflwyno gweithgarwch sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd i nifer fawr o bobl yn y DU. O ystyried bod llawer o chwaraeon a gweithgareddau’n digwydd ym myd natur, mae gan sefydliadau a chyrff rheoli sy’n defnyddio mannau awyr agored i gynnal eu gweithgareddau y potensial hefyd i ymgysylltu a chysylltu pobl â’r amgylchedd. Mae hyn i gyd yn golygu bod y sector mewn sefyllfa dda i arwain y ffordd drwy bennu cynlluniau gweithredu hinsawdd uchelgeisiol, ond realistig, sy’n helpu i annog newid cadarnhaol ar draws rhannau eraill o gymdeithas.

Ar lefel fwy lleol, gall y sector gymryd camau syml i wneud newidiadau mawr drwy ddatgloi pŵer chwaraeon i sbarduno mentrau cynaliadwy, seiliedig ar leoliad, ymlaen ar draws meysydd fel gwaith, trafnidiaeth ac iechyd. Gall yr union weithred o gymryd rhan mewn gweithgaredd gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, o gerdded i’r stadiwm yn lle gyrru yno, neu greu llwybrau beicio addas i’r pwrpas i’ch clwb pêl droed lleol ac oddi yno.

Mae’r adran hon yn edrych ar y cyfleoedd sydd ar gael i chwaraeon helpu i fynd i’r afael â materion amgylcheddol a sbarduno newid cadarnhaol ar draws ystod o raddfeydd.

11. Beth mae'r sector yn bwriadu ei wneud am hyn? Sut mae'n bwriadu datrys y problemau hyn?

Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb o’r gwaith sydd eisoes ar y gweill i helpu’r sector i leihau ei effaith ar yr amgylchedd a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd yn y fantol iddo chwarae rhan allweddol wrth gyflymu gweithredu ar yr hinsawdd ar draws cymdeithas. Mae’r adnoddau isod yn dangos y cyfeiriad strategol sy’n cael ei bennu ar raddfa ryngwladol a chenedlaethol.

Llywodraethu rhyngwladol, byd-eang:

Llywodraeth Genedlaethol:

🔗 Llywodraeth y DU (30 munud)
Os ydych chi’n brin o amser, edrychwch ar bennod 3.3 ar gynaliadwyedd amgylcheddol.

Adran 3

Beth sydd angen i mi ei wneud, a sut mae dechrau arni?

Nid yw cynaliadwyedd yn rhywbeth y gellir ei gyflawni dros nos. Mae’n cymryd amser, ymdrech ac ymrwymiad. Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar sut gall pob rhan o’r sector ddod oddi ar y blociau a dechrau cael effaith.

Prin o amser? Gallwch bori drwy gynnwys ffocws sydd ag awgrymiadau da a chanllawiau cyflym ar sut i gael effaith gadarnhaol, yn amrywio o leihau’r defnydd o blastig, cynllunio teithio llesol a chynllunio gweithredu ar gyfer eich cyfleusterau.

Byddwn hefyd yn cyfeirio at gyfrifianellau carbon, gan eich helpu i ddeall eich ôl troed carbon personol yn ogystal ag un eich sefydliad. Bydd hyn yn eich galluogi i flaenoriaethu camau gweithredu a fydd yn cael mwy o effaith.

12. Rydw i’n rhan o sefydliad sydd eto i feddwl am gynaliadwyedd amgylcheddol – beth yw’r pethau sylfaenol sydd angen i mi eu gwneud er mwyn dechrau arni?

Nod y cynnwys isod yw eich cyfeirio chi tuag at adnoddau a fydd yn gwella eich gwybodaeth am sut i ddechrau sgyrsiau a gweithredu o ran cynaliadwyedd amgylcheddol. Rydyn ni’n gwybod pa mor ddibynnol yw chwaraeon ar wirfoddolwyr ac yn deall bod blaenoriaethau sy’n cystadlu am amser, felly bydd y dolenni isod yn mynd â chi i gyfres o fideos ar-lein, gweminarau, canllawiau a deunyddiau hyfforddi, yn dibynnu ar yr amser sydd gennych chi a sut ydych chi eisiau cael mynediad i’r cynnwys.

  1. Rhoi cychwyn i’r sgwrs. Mae Climate Outreach yn darparu rhywfaint o gymorth defnyddiol (30 i 60 munud) ar sut i ddechrau cael sgyrsiau heriol am effaith newid hinsawdd er mwyn helpu i’w normaleiddio, a sbarduno gweithredu o fewn eich sefydliad. Os oes arnoch angen cymorth i gyflwyno’r achos dros flaenoriaethu cynaliadwyedd amgylcheddol, edrychwch drwy’r canllaw yma (10 munud) ar y manteision y gall cynaliadwyedd eu cynnig ar gyfer lleihau costau busnes.
  2. Asesu lefel y ddealltwriaeth neu’r wybodaeth yn eich sefydliad. Os ydych chi’n teimlo y byddai eich clwb neu sefydliad yn elwa o ddysgu mwy am y cysylltiad rhwng newid hinsawdd a chwaraeon, ystyriwch gynnal Hyfforddiant Llythrennedd Carbon (1 i 2 ddiwrnod). Mae’r hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Carbon, sydd wedi cynllunio cwrs penodol i helpu’r sector chwaraeon i ddod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy. Opsiwn arall yw cwrs Nature Wise (Hyfforddiant Eco-Lythrennedd) (4.5 awr), sydd wedi’i gynllunio i helpu cyfranogwyr i ddeall y cysylltiadau rhwng gweithgarwch dyn a tharfu ar yr ecosystem ac i ddatblygu gwybodaeth i weithredu er mwyn adfer byd natur.
  3. Asesu eich effaith. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, edrychwch ar gwestiwn 14.
  4. Edrychwch ar yr hyn y mae sefydliadau eraill o faint tebyg yn ei wneud. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, edrychwch ar gwestiwn 15.
  5. Gan adeiladu ar bwyntiau 3 a 4, dechreuwch nodi, a blaenoriaethu, y meysydd fydd yn cael yr effaith fwyaf yn eich barn chi. Mae amrywiaeth o adnoddau ar gael, isod, a all eich helpu i ddechrau arni. Rydym hefyd wedi rhannu’r rhain yn ôl maint y sefydliad, er mwyn helpu i nodi pa adnoddau fyddai fwyaf defnyddiol i chi.

Clybiau / sefydliadau bychain ar lawr gwlad:

  • Gwyliwch y fideo byr yma (3 munud) gan Sport England, sy’n rhoi trosolwg o rai o’r camau cyntaf y dylech eu cymryd i helpu’ch sefydliad i ddod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy.
  • Unwaith y byddwch wedi gwylio’r fideo, mae Sport England yn darparu canllaw atodol (~20 munud) i’ch helpu i ddysgu mwy am y camau hyn a pham eu bod yn bwysig. Ar eu gwefan, mae Sport England hefyd yn darparu mwy o wybodaeth am yr hyn maent yn ei wneud ar gynaliadwyedd amgylcheddol, a’r gefnogaeth bellach sydd ganddynt i’ch helpu.
  • Darllenwch yr erthygl fer yma (10 munud) gan Chwaraeon Cymru, sy’n rhoi awgrymiadau da ar feysydd allweddol i’w targedu wrth lunio cynllun cynaliadwyedd amgylcheddol.
  • Darllenwch dros yr awgrymiadau defnyddiol yma (10 munud) – sydd wedi’u llunio gan CharityJob – i ddarganfod mwy am ble i ganolbwyntio’ch ymdrechion a’ch adnoddau o ran cynaliadwyedd. Er bod hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y sector elusennol, mae llawer o’r wybodaeth ynddo’n berthnasol i’r sector chwaraeon – yn enwedig ar gyfer sefydliadau llai nad oes ganddynt adnoddau penodol efallai ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol.
  • Defnyddiwch y daflen waith yma (~30 i 60 munud) i ddechrau mapio eich meddyliau a’ch syniadau cychwynnol. Mae hwn yn adnodd rhagarweiniol gwych i helpu i hwyluso rhywfaint o fapio meddwl gydag aelodau eich clwb, a bydd yn eu helpu i ddeall effeithiau’r clwb ar yr hinsawdd. Mae’n hawdd gweithio drwyddo, ac mae’n fan cychwyn gwych i’r rhai nad ydyn nhw’n gwybod sut, neu ble, i ddechrau o ran cymryd camau sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd i strwythuro eu meddyliau, a dechrau nodi meysydd allweddol i ganolbwyntio arnynt. Gellir rhoi’r taflenni gwaith hyn i aelodau eich clwb hefyd, i helpu i agor trafodaethau, a’u cael i feddwl pa wahaniaeth yr hoffent ei weld a / neu fod yn rhan ohono. Yn gryno, maen nhw’n ffordd wych o ymgysylltu â’ch cynulleidfa, cael pawb i gymryd rhan, a dechrau rhoi syniadau ar waith.

Clybiau a sefydliadau mwy:

Darllenwch y canllaw yma sydd wedi’i gynhyrchu gan Gynghrair Amgylchedd Chwaraeon Awstralia, sy’n darparu map ffordd o’r camau allweddol y gall sefydliadau yn y sector chwaraeon eu cymryd i ddod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy. Mae’n eithaf hir i’w ddarllen (~45 i 60 munud), ond os ydych chi’n brin o amser, canolbwyntiwch ar gamau 1 i 3 (tudalennau 21 i 24). Er bod yr adnodd hwn yn cael ei gynhyrchu y tu allan i’r DU, mae’n darparu fframwaith ardderchog i roi syniad i chi o’r camau cyntaf y gallech fod eisiau eu cymryd.

13. Rydw i’n rhan o sefydliad sydd eisoes wedi dechrau meddwl am gynaliadwyedd amgylcheddol, ond eisiau gwybod sut i fod yn fwy uchelgeisiol wrth ddatblygu cynlluniau / targedau ffurfiol. Ble gallaf ddod o hyd i arweiniad ar sut i wneud hyn?

Mae’r adran hon wedi cael ei datblygu i’ch helpu chi i symud y tu hwnt i sgyrsiau cychwynnol ar gynaliadwyedd amgylcheddol, a throi mentrau tymor byr yn gynlluniau mwy sefydledig sy’n ymgorffori’r egwyddorion hyn ac yn dod â chanlyniadau cadarnhaol yn y tymor hir. Unwaith eto, rydym wedi gwahanu’r rhain i faint y sefydliad, a baich amser, er mwyn eu gwneud mor hawdd eu dilyn â phosibl.

Clybiau / sefydliadau bychain ar lawr gwlad:

  • Mae Cynllun Gweithredu Newid Hinsawdd Community Leisure UK (10 munud) yn rhoi enghraifft wych o sut i ddechrau ffurfioli camau gweithredu ar gynaliadwyedd amgylcheddol yn gynllun gweithredu clir. Mae’r cynllun yn nodi cyfres o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (DPAion) realistig, cyraeddadwy, sy’n adeiladu ar gyfres o amcanion a nodir yn eu Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol (10 munud). Enghraifft wych o sut i ddechrau troi syniadau’n weithredu.
  • Ar eu gwefan, mae gan y Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) nifer o erthyglau hawdd eu darllen (10 i 15 munud) sy’n rhoi cyngor ar gamau syml y gall sefydliadau bach eu cymryd i ddod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy. Mae’r erthyglau hyn yn ymdrin â hanfodion meysydd allweddol, fel sut i leihau’r defnydd o ddŵr yn y gweithle, arferion caffael cynaliadwy, a sut i leihau’r defnydd o ynni.
  • Mae Earth Day yn darparu nifer o ganllawiau cyflym a phecynnau adnoddau ar sut gall sefydliadau llai sy’n cael eu harwain gan wirfoddolwyr ddod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy – gan gynnwys cyngor ar bopeth o sut i leihau plastig, i sut i leihau ôl troed carbon gweithrediadau o ddydd i ddydd.
  • Mae Cycle Planner yn adnodd defnyddiol sy’n ceisio helpu i ddod o hyd i lwybrau beicio yn haws, a chynyddu nifer y teithiau llesol ar lefel unigol a sefydliadol.

Clybiau a sefydliadau mwy:

  • Darllenwch y canllaw yma sydd wedi’i gynhyrchu gan Gynghrair Amgylchedd Chwaraeon Awstralia, sy’n darparu map ffordd o’r camau allweddol y gall sefydliadau yn y sector chwaraeon eu cymryd i ddod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy. Mae’n eithaf hir i’w ddarllen (~45 i 60 munud), ond os ydych chi’n brin o amser, canolbwyntiwch ar gamau 4 i 7 (tudalennau 24 i 38).
  • Mae The Outdoor Friendly Pledge yn rhoi arweiniad (15 munud) i athletwyr ar sut i bennu, gweithredu a chyflawni eu hymrwymiadau eu hunain ar gynaliadwyedd amgylcheddol. Adnodd defnyddiol i’w rannu ag athletwyr ar draws ystod o lefelau a disgyblaethau sydd eisiau defnyddio eu platfform i hyrwyddo a chyfrannu at weithredu cadarnhaol ar yr hinsawdd.
  • Mae’r Adran Addysg yn darparu arweiniad hynod ddefnyddiol (30 munud) ar sut i gynyddu effeithlonrwydd ynni cyfleusterau, sy’n helpu i leihau costau ac ôl troed carbon fel ei gilydd. Er bod yr arweiniad yma wedi’i gynllunio ar gyfer y sector addysg, mae’n darparu fframwaith defnyddiol ar gyfer meddwl am sut i gynyddu effeithlonrwydd ynni cyfleusterau chwaraeon.

14. Oes angen i mi fod yn rhoi cyfrif am garbon fy sefydliad, ac os felly, o ble gallaf gael adnoddau i wneud hyn?

Gall cyfrifianellau allyriadau carbon fod yn adnoddau defnyddiol wrth flaenoriaethu eich gweithredoedd a phennu targedau clir o ran cynaliadwyedd amgylcheddol. Mae ystod eang o adnoddau ar gael a gallant amrywio o nodi ôl troed y sefydliad, effaith digwyddiad (edrychwch ar gwestiwn 16, isod) neu eich allyriadau carbon personol eich hun.

Gall cymhlethdod cyfrifianellau amrywio’n sylweddol a gallant ymddangos yn frawychus. Mae’n bwysig nodi nad oes unrhyw adnodd yn berffaith – maent i gyd yn dibynnu ar ragdybiaethau ac amcangyfrifon. Dylid eu hystyried fel adnodd gwerthfawr i helpu i ddeall eich effaith amgylcheddol a’r camau y gallwch chi a’ch clwb eu cymryd i leihau’r effaith hon. Nid oes angen manylder llwyr ar yr adnodd i fod yn ddefnyddiol.

Fel canllaw, byddem fel rheol yn disgwyl i’r allyriadau uchaf fod yn y meysydd canlynol:

  • Defnydd o ynni (ar gyfer y sefydliadau hynny sydd â’u cyfleusterau eu hunain);
  • Teithio (teithio gan gyfranogwyr a gwylwyr i hyfforddiant a digwyddiadau);
  • Offer a chit chwaraeon; a
  • Prynu bwyd a diod.

🔗 Yr Ymddiriedolaeth Carbon – Cyfrifiannell Carbon (Graddfa Sefydliadol)
Cyfrifiannell carbon ar gyfer busnesau bach a chanolig.

🔗 Llywodraeth Cymru – Canllaw sector cyhoeddus Cymru ar gyfer adrodd ar garbon sero-net
Wedi’i anelu at gyrff yn y sector cyhoeddus, mae hwn yn ganllaw defnyddiol ar sut i feddwl drwy allyriadau carbon eich sefydliad.

🔗 World Wildlife Fund – Cyfrifiannell Ôl Troed Carbon (Graddfa Unigol) (10 munud)
Cyfrifiannell sy’n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn – ond ffordd wych o ddysgu mwy am eich ôl troed carbon eich hun, a rhai camau cychwynnol y gallwch eu cymryd i helpu i leihau hyn.

🔗 Busnes Carbon Sero – Canllawiau ar Sut i Gyfrif Carbon (10 munud)
Yn rhoi rhywfaint o arweiniad ar sut mae cyfrif carbon yn gweithio.

🔗 Pawprint – Gwefan neu ap ar gael
Mae gan y gyfrifiannell yma ap braf, hawdd ei ddefnyddio. Mae hefyd yn rhoi awgrymiadau tywys ar sut i leihau.

Adran 4

Gysgu gan eraill

Un elfen bwysig o’r siwrnai i ddod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy yw dysgu oddi wrth y rhai sydd ar y blaen. Er nad oes unrhyw ddwy gamp, na dau glwb neu gorff rheoli, yr un fath, mae’n debygol y bydd llawer ohonoch chi’n wynebu cwestiynau tebyg ynghylch sut i roi cynlluniau cynaliadwyedd ar waith. Gall deall y siwrnai mae sefydliadau eraill, tebyg, wedi teithio arni i gyrraedd lle maen nhw heddiw helpu i egluro’r heriau o ran dechrau arni. Yn yr adran hon, rydym yn rhannu cyfres o astudiaethau achos ac enghreifftiau o sefydliadau sy’n arwain y ffordd ar gynaliadwyedd, yn y gobaith y byddant yn eich ysbrydoli a’ch cefnogi i wireddu eich mentrau eich hun.

15. Pa sefydliadau ar draws y sector sy'n dangos arfer gorau ar gynaliadwyedd, a ble gallaf ddysgu mwy am eu siwrnai?

Clybiau / sefydliadau bychain ar lawr gwlad:

Mae’r adnoddau canlynol yn darparu cyfres o enghreifftiau o amrywiaeth o sefydliadau a chlybiau bach ar draws y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol sy’n mynd ati’n rhagweithiol i bennu targedau clir, uchelgeisiol i ddod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy. Maent yn amrywio o ran dyfnder a chwmpas, ond maent i gyd yn darparu glasbrint defnyddiol ar gyfer sut gall sefydliadau llai ddechrau rhoi syniadau at ei gilydd i ffurfio cynlluniau gweithredu clir a chryno.

Yn ogystal â’r rhain, mae’r adnoddau canlynol yn rhoi enghreifftiau pellach o arfer gorau – yn y sector chwaraeon a’r tu allan iddo – a all helpu i’ch arwain chi wrth i chi ddechrau ffurfioli eich cynllun gweithredu cynaliadwyedd:

  • Mae Clwb Pêl Droed Nirvana yng Nghaerlŷr yn enghraifft wych o’r pŵer sydd gan glybiau chwaraeon bychain i weithredu fel catalyddion ar gyfer newid cadarnhaol yn y cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Gan weithio gyda Phrifysgol De Montfort, mae Nirvana yn arloesi gyda dull sy’n canolbwyntio ar bobl i leihau eu hôl troed carbon, ac yn defnyddio pŵer chwaraeon i warchod y rhai sydd fwyaf agored i niwed problemau cymdeithasol ac amgylcheddol.
  • Mae Oxfordshire on the Move yn gwneud gwaith rhagorol sy’n cael ei arwain gan y gymuned i helpu’r bobl sydd ei angen fwyaf i drawsnewid eu hiechyd a’u lles drwy weithgarwch corfforol. Darllenwch fwy am eu mentrau yma (5 i 10 munud) i ddarganfod sut maent yn bwriadu mynd i’r afael â’r heriau maent yn eu hwynebu.
  • Edrychwch yn lleol – mae’r cenedlaethau iau wedi’u haddysgu’n gynyddol am bwysigrwydd materion amgylcheddol ac yn arwain y galw am fwy o weithredu ar yr hinsawdd. Mae’r rhaglen Eco-Ysgolion yn grymuso pobl ifanc i arwain o’r blaen a gwneud gwahaniaeth drwy yrru mentrau yn eu blaen yn eu hysgol a’u cymuned leol. Maent yn nodi deg pwnc allweddol i ganolbwyntio arnynt, sy’n darparu man cychwyn defnyddiol i’ch clwb / sefydliad wrth i chi ddechrau ystyried sut gallwch wneud gwahaniaeth.  

Clybiau a sefydliadau mwy:

  • Cyfeirir ato’n aml fel ‘clwb pêl droed gwyrdd cyntaf’ y byd. Mae Forest Green Rovers yn un o’r goleuadau mwyaf blaenllaw yn y byd chwaraeon / cynaliadwyedd. Edrychwch ar yr erthyglau canlynol gan Fifa, Y Cenhedloedd Unedig a Sport Positive i ddysgu mwy am eu siwrnai.
  • Mae gan Faes Criced Lord’s gyfarwyddyd byr, craff ardderchog ar sut i wneud eu gweithgareddau diwrnod gêm yn fwy cynaliadwy.
  • Mae Clwb Tennis Lawnt Lloegr (AELTC) yn Wimbledon yn gwneud gwaith gwych, nid yn unig i ddatgarboneiddio ei weithrediadau ei hun, ond hefyd i ddefnyddio pŵer chwaraeon i ymgysylltu â chefnogwyr ar faterion yn ymwneud â’r amgylchedd, ac ysgogi newid cadarnhaol.
  • Mae SkySports yn ymuno â llawer o glybiau pêl droed i wneud addewid sero net.
  • Ymunwch â Future for Football a dysgu sut i ofyn y cwestiynau y mae arnoch angen atebion iddynt ynghylch sut mae eich clwb am fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Adran 5

Cynnal Digwyddiadau Cynaliadwy

Os yw’n ddiwrnod gêm wythnosol rheolaidd neu’n gystadleuaeth flynyddol, mae angen llawer iawn o adnoddau, teithio ac ynni ar gyfer digwyddiadau – ac mae’r cyfan yn effeithio ar yr amgylchedd. Hefyd mae digwyddiadau – dim ots pa mor fawr neu fach ydyn nhw – yn darparu cyfleoedd unigryw i ymgysylltu ac addysgu cynulleidfaoedd ar faterion amgylcheddol, neu lansio ymgyrchoedd neu fentrau newydd i ysgogi gweithredu hirdymor.

Isod rydym yn darparu rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol ar sut i ymgorffori cynaliadwyedd yng nghalon y broses – o gynllunio i gyflawni – i helpu i wneud eich digwyddiad mor gynaliadwy ac effeithiol â phosibl.

16. Rydw i’n cynnal digwyddiad – sut mae sicrhau ei fod mor amgylcheddol gynaliadwy â phosibl?

Mae llawer o ffactorau i’w hystyried wrth gynnal digwyddiadau, ac yn fwy fyth felly os ydych chi’n ceisio eu cynnal yn gynaliadwy. Yn ffodus, mae rhai mesurau syml y gallwch eu cymryd i leihau effaith eich digwyddiad ar yr amgylchedd. Gall hyn fod mor syml ag anfon neges at fynychwyr yn gofyn iddynt deithio i’r digwyddiad gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu rannu car.

Mae’r dolenni yn yr adran hon yn darparu llawer o adnoddau i’ch helpu chi i gynllunio’ch digwyddiad drwy dynnu sylw at feysydd allweddol lle gallwch wneud gwahaniaeth, fel teithio, bwyd a gwastraff. Bydd hefyd yn eich cynorthwyo i weld a mesur effaith eich digwyddiad ar yr amgylchedd, a fydd yn eich helpu i nodi targedau clir ar sut i leihau hyn wrth symud ymlaen.

🔗 Yr Ymddiriedolaeth Carbon – Canllaw Digwyddiadau Gwyrdd (30-60 munud)
Yn darparu canllawiau ar weithredu arferion cynaliadwy mewn digwyddiadau, gan gynnwys ysbrydoli newid ac arloesi.

🔗 Julie’s Bicycle – Adnoddau Creative Climate
Yn rhoi arweiniad ar sut i fesur effaith y digwyddiadau rydych yn eu cynnal. Mae’r rhain wedi’u datblygu ar gyfer y Celfyddydau a’r Diwydiannau Creadigol – ond yn darparu cyfres o adnoddau defnyddiol addas i’r sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Adran 6

Cadw mewn cysylltiad

Er ein bod yn gobeithio y bydd y pecyn cychwynnol hwn yn rhoi digon o adnoddau i chi ddechrau arni, mae ein dealltwriaeth o newid yn yr hinsawdd a’r ffordd orau i chwaraeon ymgysylltu â materion amgylcheddol yn datblygu yn gyson. Mae un elfen allweddol o adeiladu – a chynnal – momentwm o ran cynaliadwyedd yn gofyn am sicrhau’r wybodaeth, y gefnogaeth a’r arweiniad diweddaraf. Isod, er mwyn rhoi gwybod i chi am bopeth sy’n ymwneud â chwaraeon a chynaliadwyedd, rydyn ni wedi rhannu gwefannau i’w nodi ynghyd ag ychydig o gylchlythyrau y mae’n werth tanysgrifio iddynt.

17. Oes unrhyw wefannau neu lefydd y mae'n ddefnyddiol parhau i ailymweld â nhw er mwyn sicrhau bod gennyf fynediad i'r wybodaeth, yr ymchwil a'r datblygiadau diweddaraf?

  • Chwaraeon y BBC / HWB Cynaliadwyedd – yn dod â’r holl ddatblygiadau diweddaraf o bob rhan o’r byd i chi;
  • Drwy eu menter ‘Cool Down’, mae’r Rapid Transition Alliance yn lle defnyddiol i rwydweithio â chlybiau chwaraeon eraill ac ymuno ag ymgyrchoedd i helpu i sbarduno cynnydd gyda chynaliadwyedd amgylcheddol ar draws y sector;
  • Adroddiad Cynaliadwyedd – yn darparu ystod eang o sylwebaeth chwaraeon / cynaliadwyedd, o ganllawiau byr, bachog, i ddarnau manwl, hirach ar faterion fel eiriolaeth athletwyr;
  • BASIS

Associate Membership

Associate BASIS members must join through their Umbrella organisation. You can check to see if your umbrella is a member by using our Members page and then enquire directly with them about membership. If you’re not sure or need help, feel free to contact us.

Sponsor BASIS

Tell us about your organisation and how we might work together.

By submitting this form, you agree you have read and agree to our privacy policy, and that you will be added to the BASIS Newsletter mailing list. You can opt-out later if you wish. This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.

Partner with BASIS

Tell us about your organisation and how we might work together.

By submitting this form, you agree you have read and agree to our privacy policy, and that you will be added to the BASIS Newsletter mailing list. You can opt-out later if you wish. This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.

Join BASIS

Complete the form below to start your BASIS membership journey.

By submitting this form, you agree you have read and agree to our privacy policy, and that you will be added to the BASIS Newsletter mailing list. You can opt-out later if you wish.

Join BASIS

Complete the form below to start your BASIS membership journey.

By submitting this form, you agree you have read and agree to our privacy policy, and that you will be added to the BASIS Newsletter mailing list. You can opt-out later if you wish.

Join BASIS

Complete the form below to start your BASIS membership journey.

By submitting this form, you agree you have read and agree to our privacy policy, and that you will be added to the BASIS Newsletter mailing list. You can opt-out later if you wish.

Become an affiliate

Great news, you can become a BASIS affiliate right now. Just fill in the form below.

By submitting this form, you agree you have read and agree to our privacy policy, and that you will be added to the BASIS Newsletter mailing list. You can opt-out later if you wish. This site is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.